×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X
More jobs:

Cynorthwyydd Marchnata Chyfathrebu

Job in Wrexham, Wrexham County, LL13, Wales, UK
Listing for: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Full Time position
Listed on 2026-01-19
Job specializations:
  • Restaurant/Food Service
    General Retail
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 29819 - 32803 GBP Yearly GBP 29819.00 32803.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu

Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu

Llawn amser 35 awr yr wythnos (gellir ystyried ceisiadau i rannu swydd neu rhan amser)

Parhaol. Graddfa Cyflog: £29,819 - £32,803 y flwyddyn. Yn ogystal â phecyn gwyliau a buddianau hael

Ymunwch gyda Ni yn Addysg Oedolion Cymru – Lle Mae Dysgu’n Trawsnewid Bywydau

Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn fod addysg yn arf pwerus ar gyfer trawsnewid personol a chymunedol. Fel prif ddarparwr Cymru ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch o ansawdd uchel sy’n grymuso unigolion i wireddu eu potensial a chyfrannu’n gadarnhaol  cenhadaeth yw hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu mynediad at ddysgu a sgiliau, gan feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pawb ffynnu.

Rydym yn falch o'n gwerthoedd a'n hethos, sydd wedi'u gwreiddio mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a pharch. Gwerthfawrogwn ein staff fel ein hased mwyaf ac rydym yn ymroddedig i greu gweithle cadarnhaol, cydweithredol a deinamig lle mae pob aelod o'r tîm yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a'i ysgogi i gyflawni ei orau.

Y Rôl

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno gyda ni fel ein Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu, gan ei fod yn gyfle i ddefnyddio eich creadigrwydd i drawsnewid a llunio ein hymgysylltiad gyda dysgwyr, aelodau a rhanddeiliaid, ac i godi ein proffil fel darparwr cenedlaethol dysgu cymunedol i oedolion yng Nghymru o fewn ein cymunedau, a hefyd yn fasnachol.

Byddwch yn chwarae rhan hanfodol o fewn y sefydliad, ynghyd â chefnogi'r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu i gyflawni strategaeth farchnata'r sefydliad. Byddwch yn allweddol i gefnogi ein timau cwricwlwm drwy hyrwyddo ein cynnig cwricwlwm yn effeithiol ar draws sianeli lluosog, gan gynnwys llwyfannau digidol a chyfryngau cymdeithasol.

Os ydych yn mwynhau gweithio gyda phobl mewn amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwerth chweil gyda’r rhyddid i ddefnyddio’ch sgiliau creadigol, dyma'r cyfle perffaith i ymuno gyda ni wrth i ni ddatblygu dull cyffrous ac arloesol i'r gweithgareddau marchnata a'n cynnig aelodaeth.

Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle amrywiol a chynhwysol lle mae pob llais yn cael ei glywed a'i werthfawrogi. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, profiad a phersbectif i ymgeisio.

Sut i wneud cais

Rydym yn gwerthfawrogi diddordeb pob ymgeisydd; fodd bynnag, os ydych chi wedi gwneud cais am y swydd hon yn ystod y 3 mis diwethaf, gofynnwn yn garedig i chi beidio â chyflwyno cais newydd.

Ymgeisiwch erbyn 12:00 Dydd Llun 26ain Ionawr gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch nad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Cyfweliadau i'w trefnu yn ystod yr wythnos yn dechrau 9fed Chwefror.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei gweithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.

Croesawn geisiadau a ddymunir cael eu hystyried ar gyfer (ond heb fod yn gyfyngedig i) gweithio'n rhan-amser a threfniadau rhannu swydd. Gellir trafod unrhyw gais penodol yn ystod y cyfweliad.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon. Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary