Stiward ar y Trên
Listed on 2026-02-02
-
Healthcare
Healthcare Consultant
Mae Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri ac yn atyniad mawr i dwristiaid yng Ngogledd Cymru. Mae ein cynnig, sydd wedi'i anelu'n bendant at y farchnad dwristiaeth, yn rhagori yn ei faes. Rydym yn gweithredu trenau bob dydd o ddiwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Hydref.
Rydym yn chwilio am stiward i weithio ar ein trenau ar naill ai Rheilffordd Ffestiniog neu Reilffordd Eryri.
Benefits- Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
- Contract tymhorol o ddydd Llun 23ain o Fawrth 2026 i’r dydd Sadwrn 31ain o Hydref 2026
- Sifftiau hyblyg i weddu’r ymgeisydd: o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau; neu penwythnosau a gwyliau
- Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
- Ymrestriad i gynllyn pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad gyrfaol
- Manteision teithio ar Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis
Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys cyfarch teithwyr, darparu gwybodaeth ac adrodd straeon ffeithiol am y rheilffyrdd, gwerthu arweinlyfrau, a chynorthwyo i ddarparu ein gwasanaeth moethus yn y dosbarth Aur. Yn ogystal ar wasanaethau Rheilffordd Eryri bydd stiwardiaid yn darparu gwasanaeth lluniaeth troli wrth seddi.
Lleolir y swydd hyn ym Mhorthmadog, fodd bynnag efallai y gofynnir i aelodau’r tîm weithio o Gaernarfon, Blaenau Ffestiniog neu fannau cychwyn eraill o bryd i’w gilydd.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus frwdfrydedd dros weithio yn y diwydiannau lletygarwch, arlwyo neu dwristiaeth a pharodrwydd i ddysgu, datblygu a chyfrannu at y tîm. Byddai profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid o fantais ond bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Core Skills- Swydd ‘Blaen Tŷ’ felly bydd sgiliau cyfathrebu da a gwarediad siriol yn bwysig
- Rhaid bod yn daclus a chroesawgar
- Ymddangosiad smart gan ddilyn côd gwisg llym
- Callu cyfathrebu gwybodaeth mewn modd clir a chyfeillgar
- Rhagweithiol a gallu gweithio ar eich menter eich hun
- Rhaid bod yn rhifog, llythrennog ac hefo sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol
Mae hon yn ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf ac mae’r Cwmni yn gweithredu polisi dwyieithrwydd. Felly, mae’r gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd. Mae angen gwybodaeth am leoliadau ar y Rheilffyrdd a’u defnydd gan ymwelwyr ar gyfer y swydd yma, byddai gwybodaeth o Borthmadog a’r cyffiniau yn fanteisiol.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Bydd oriau gwaith yn amrywio ac efallai y bydd oriau ar gael i weddu i’r ymgeisydd, gyda hyd at 40 awr yr wythnos ar gael yn ystod tymor prysur yr haf.
Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl bresennol i weithio yn y DU.
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: