×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Revenue Management Analyst | Dadansoddwr Rheoli Refeniw

Job in Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37, Wales, UK
Listing for: Transport for Wales
Full Time position
Listed on 2026-03-05
Job specializations:
  • Science
    Research Scientist, Artificial Intelligence
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 40000 - 60000 GBP Yearly GBP 40000.00 60000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Rydyn ni'n chwilio am Ddadansoddwr Rheoli Refeniw i fynd ati'n rhagweithiol i ddadansoddi marchnad Advance TrC a gwneud argymhellion strategol i'r Arweinydd Rheoli Refeniw a'r Pennaeth Prisio a Rheoli Refeniw ar gyfer strategaeth Rheoli Refeniw y dyfodol, gan geisio cynyddu refeniw y maes hwn ar yr un pryd â rheoli capasiti pellter hir.

Cyfrifoldebau'r swydd
  • Mynd ati'n rhagweithiol i ddadansoddi marchnad Advance TrC a nodi cyfleoedd ar gyfer cynyddu refeniw.
  • Yn seiliedig ar ddadansoddiad craff, datblygu argymhellion strategol tymor hir ar gyfer cyfeiriad y farchnad Advance.
  • Rhoi newidiadau i strategaeth y farchnad Advance ar waith yn y system Rheoli Refeniw, gan sicrhau'r enillion mwyaf posib i TrC a rheoli capasiti seddi ar wasanaethau pellter hir.
  • Rheoli marchnad Advance TrC drwy gyfuniad o systemau (y System Rheoli Refeniw a'r System Archebu Genedlaethol), gan sicrhau bod gwasanaethau y gellir eu harchebu yn agored a bod tocynnau Advance ar gael i'w prynu ar y gwasanaethau hyn.
Am beth rydyn ni'n chwilio
  • Sylw trylwyr i fanylion.
  • Gallu dethol canfyddiadau allweddol o wybodaeth sy'n aml yn gymhleth a'u trosi'n adroddiadau/cyflwyniadau yn unol ag amserlenni tynn.
  • Gallu cyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel yn y sefydliad.
  • Y gallu a'r cymhelliant i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o rwydwaith TrC a'r hyn sy'n sbarduno llwyddiant mewn busnes.

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.

Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunoj â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio.

Pwy

ydyn ni

Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.

Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd

Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary