×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Rheolwr Prosiect | Project Manager

Job in Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37, Wales, UK
Listing for: Transport for Wales
Full Time position
Listed on 2026-02-07
Job specializations:
  • Dental / Dentistry
    Healthcare Consultant
Job Description & How to Apply Below

Bydd rôl y Rheolwr Prosiect yn cyflawni prosiectau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gynaliadwy yn unol â pholisi a strategaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cefnogi Arweinydd y Rhaglen Cyflawni Teithio Llesol, er mwyn darparu Rhaglen Tref i Arddangos Cerdded, Beicio a Theithio ar Olwynion.

Cyfrifoldebau’r swydd
  • Cyflawni amrywiaeth o brosiectau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gynaliadwy, drwy ddefnyddio methodolegau cylch bywyd prosiect cadarn (fel APM neu PRINCE2), gan gynnwys rhoi cynllun y prosiect ar waith, llunio amserlen o’r holl dasgau, cerrig milltir allweddol a rheoli adnoddau i sicrhau bod y rhain yn cael eu cwblhau’n ddiogel ac mewn da bryd, yn unol â’r gyllideb ac i ansawdd uchel.
  • Darparu gwasanaeth rheoli prosiectau proffesiynol ac effeithiol, gan gynnwys trefniadau llywodraethu, prosesau adrodd, gweithgorau technegol a grwpiau llywio gweithredol, yn unol â’r prosesau a’r amserlenni angenrheidiol i sicrhau bod y prosiectau’n cyd-fynd â phrosesau WelTAG, Pyrth Cyfnodau Cynllun Gwaith Trafnidiaeth Cymru (TrC), a’u bod yn cael eu cyflawni o safon ac yn unol â’r gyllideb.
  • Rheoli cyllideb y prosiect drwy gysylltu â’r Partner Busnes Cyllido priodol ac Arweinydd y Prosiect, gan uwchgyfeirio unrhyw amrywiadau lle bo angen i sicrhau bod y costau’n aros o fewn y gyllideb y cytunwyd arni.
  • Rheoli ac arwain timau prosiectau drwy gydweithio â chydweithwyr mewnol a chontractwyr allanol, Awdurdodau Lleol, rhanddeiliaid a r gadwyn gyflenwi i sicrhau bod y prosiectau’n cyflawni canlyniadau.
Am beth rydyn ni’n chwilio
  • Gradd mewn pwnc perthnasol fel Busnes, Cynllunio Trafnidiaeth, Peirianneg Ddaearyddol (neu debyg), neu brofiad gwaith cyfatebol amlwg.
  • Meddu ar gymhwyster Rheoli Prosiectau fel APM neu PRINCE2, neu’n gweithio tuag at hynny
  • Profiad blaenorol o weithio gyda phrosiectau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gynaliadwy.
  • Profiad blaenorol o weithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, fel swyddogion y sector cyhoeddus a/neu’r llywodraeth ar lefel leol, rhanbarthol neu genedlaethol.

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell dosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.

Rydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwyd

IANT trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.

Pwy ydyn ni

Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.

Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary