Noddwr Prosiectau | Project Sponsor
Listed on 2026-02-02
-
Dental / Dentistry
Healthcare Consultant
Noddwr y Prosiect yw arweinydd y prosiect ar gyfer cyflawni a bydd yn ymgysylltu â chleientiaid, gweithrediadau a thimau gweithredu er mwyn gallu rhoi cynlluniau gwella trafnidiaeth ar waith yn llwyddiannus ar ran Trafnidiaeth Cymru (TrC).
Cyfrifoldebau’r swydd- Bod yn gynrychiolydd y cleient, a bod yn bwynt cyswllt gwybodus ar gyfer materion masnachol a gweithredol sy’n ymwneud â chyflawni cynlluniau gwella trafnidiaeth drwy fonitro, partneru a chyfathrebu â thimau cyflawni prosiectau er mwyn cyflawni’n effeithiol.
- Olrhain aliniad y cynllun yn erbyn achos busnes y rhaglen drwy weithio ar draws portffolio o brosiectau i liniaru risgiau prosiect a sicrhau cyswllt effeithiol rhwng cynlluniau.
- Cynllunio’r gwaith o gyflawni prosiect hyd at y dyddiad cwblhau drwy adolygu amserlenni misoedd ymlaen llaw i ddeall yr heriau posibl, er mwyn rheoli rhaglenni’n effeithiol.
- Cyflawni’r prosiectau trafnidiaeth drwy gydlynu rhanddeiliaid mewnol ac allanol a’u gofynion ar yr un pryd â chynnal gwasanaethau i’n cwsmeriaid.
- Profiad blaenorol o reoli prosiectau gyda dealltwriaeth o gylch bywyd prosiectau.
- Profiad o reoli rhanddeiliaid, gyda’r gallu i gyfleu heriau ac atebion posibl.
- Profiad amlwg o gynllunio, blaenoriaethu a chyflawni gwaith o safon uchel yn gyson ac o fewn yr amser sy’n ofynnol.
- Profiad o arwain a rheoli cynlluniau buddsoddi.
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Rydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.
Pwyydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awwyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: