×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Teacher – Ysgol Bro Pedr

Job in Lampeter, Ceredigion, SA48, Wales, UK
Listing for: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Full Time position
Listed on 2026-02-08
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    Healthcare Consultant, Surgeon
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 40000 - 60000 GBP Yearly GBP 40000.00 60000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o’r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i’r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynnllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Bro Pedr am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd.

Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o’r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol pob oed. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i’r proffesiwn.

Ysgol dwyieithog yw Ysgol Bro Pedr a rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn un o ysgolion cyntaf 3-19 Cymru, ac yn torri tir newydd o ran darparu addysg gydol oed ar gyfer ein disgyblion. Er bod nifer o ddisgyblion yn cychwyn yn yr ysgol yn 3 oed, daw nifer yn ogystal o ysgolion cynradd partner eraill o’r Awdurdod Lleol ac o Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin.

Mae 960 o ddisgyblion ar rôl yr ysgol – 321 o ddisgyblion Meithrin i flwyddyn 6 a 639 o ddisgyblion Blwyddyn 7-13 (sy’n cynnwys 79 o ddisgyblion ym mlwyddyn 12 a 55 o ddisgyblion ym mlwyddyn 13).

Daw 69.4% o ddisgyblion yr ysgol o gartrefi lle na ddefnyddir y Gymraeg. Mae’r disgyblion yn cael eu ffrydio’n ieithyddol, gyda dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg a dosbarthiadau Cymraeg Ail-Iaith ym mlynyddoedd 3-13. Mae’r ysgol wedi mynd trwy ymgynghoriad llwyddiannus yn ddiweddar sy’n golygu bod ein disgyblion Dysgu Sylfaen i gyd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar hyn o bryd, mae 24.5% o’n disgyblion yn hawlio prydiau ysgol am ddim (20.97% o’n disgyblion oed uwchradd a 31.7% o’n disgyblion oed cynradd).

Ar hyn o bryd, mae 15 o ddisgyblion sydd mewn gofal yn mynychu ein hysgol ac mae 16 o ddisgyblion yr ysgol yn ofalwyr ifanc. Hefyd, mae 10.1% o’n disgyblion a Saesneg fel Iaith Ychwanegol, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r ganran yn is o fewn yr oed cynradd (9.03%) o’i gymharu â’r oed uwchradd (10.64%). Rydym yn falch iawn o’n cymuned cynhwysol yn Ysgol Bro Pedr a rydym yn darparu’n llwyddiannus ar gyfer ystod lawn o alluoedd a chefndiroedd.

Lleolir Canolfan Y Bont, sef adnodd sirol ar gyfer disgyblion o oed uwchradd ag anghenion amrywiol (ASD, SLD, PMLD, MSI), ar safle’r ysgol. Mae’r ganolfan yn rhan lawn o’r ysgol, ac mae’r disgyblion ar rôl Ysgol Bro Pedr. Yn ogystal, sefydlwyd uned Sgiliau Bywyd sy’n darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol lled ddwys a disgyblion ymddygiadol bregus a chynigai barhad a dilyniant i rai o disgyblion Canolfan y Bont lle’n berthnasol ac ymarferol.

Mae yna 11 o ddisgyblion yn mynychu Canolfan Y Bont a 21 o ddisgyblion yn mynychu Sgiliau Bywyd, ar hyn o bryd.

Mae’r cynllun hwn yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Bro Pedr i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:

  • Cynllunio gwersi
  • Asesu, marcio ac adborth
  • Datblygu dycnwch
  • Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).

Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.

Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amserneu ran amser.

Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.

Proses ymgeisio: Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i’r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen gais sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy Athrawon

CC.WMTeachersru erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul, 22 Chwefror 2026.

Bydd cyfweliadau…

Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary