×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X
More jobs:

Cymorth Technegol , Data Morol

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
Full Time position
Listed on 2026-01-07
Job specializations:
  • Software Development
    Data Engineer
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 32544 - 35377 GBP Yearly GBP 32544.00 35377.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Cymorth Technegol 4, Data Morol

Tîm / Cyfarwyddiaeth :
Monitro, Asesu ac Adrodd Morol / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol : £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).

Math o gytundeb :
Penodiad Tymor Penodol am 12 mis gyda'r posibilrwydd o barhaolrwydd.

Patrwm gwaith :
Llawn amser, 37 awr yr wythnos(Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Rhif swydd : 203972

Y rôl

A ydych chi’n angerddol dros ecosystemau morol a gwneud gwir effaith drwy ddata? Rydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol sy’n ystyriol o fanylion i gefnogi ein Tîm Monitro, Asesu ac Adrodd Morol.

Yn y rôl hon, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoli ein data morol a sicrhau eu hansawdd - o gofnodi biolegol a dilysu data i weithio ar draws systemau sy’n cefnogi gwaith tystiolaeth forol hanfodol CNC. Byddwch yn cydweithio’n agos â thimau morol eraill, gan gynnwys ein Grŵp Ecosystemau Arfordirol Morol a Dŵr Croyw, gan helpu i ddarparu data cywir a dibynadwy sy’n sail i’r broses o wneud penderfyniadau amgylcheddol ledled Cymru.

Byddwch yn rhan o dîm mawr, cyfeillgar a chefnogol iawn o 18 o arbenigwyr sy’n monitro ac yn adrodd ar bopeth o riffau islanwol i barthau rhynglanwol. Mae ein tîm yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau Morol, ac yn cwmpasu arfordir cyfan Cymru. Felly, bydd eich gwaith yn cefnogi’n uniongyrchol y gwaith o ddiogelu ac adfer ein amgylcheddau morol unigryw.

Os ydych yn drefnus, yn frwdfrydig dros wyddoniaeth forol, ac yn barod i weithio mewn tîm sy’n gwerthfawrogi cydweithio a chael effaith, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Lucie Haines at .

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedwar i wyth wythnos i’r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
  • Gweithio fel rhan o dîm monitro, asesu ac adrodd morol i helpu i reoli mewnbwn data morol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Marine Recorder Online (MRO), sef system rheoli data gweithredol ar-lein ar gyfer data cadwraeth forol y DU, gan ganolbwyntio ar fioamrywiaeth benthig a data samplu cysylltiedig.
  • Gweithio gyda staff monitro morol i gefnogi eu gofynion ar gyfer rheoli, adfer a thrin data.
  • Trefnu cyfarfodydd â staff allweddol i nodi blaenoriaethau o ran mewnbynnu data, cysylltu â gwarcheidwad data (data, dulliau casglu, sut i strwythuro data yn Marine Recorder Online)
  • Gweithio ar draws timau i ddeall ble mae data’n cael eu cadw, a rheoli, cofnodi a chadw data yn ôl yr angen ar gyfer anghenion y prosiectau.
  • Ymgymryd â’r gwaith o gasglu, mewnbynnu, rheoli a dadansoddi data monitro.
  • Cefnogi ymatebion i geisiadau data pan fydd angen.
  • Cyfrannu at y gwaith ehangach o reoli data morol, er enghraifft, drwy roi mewnbwn i grwpiau sy’n defnyddio cronfeydd data, neu lunio canllawiau.
  • Cynorthwyo gyda gwaith maes pan fydd angen.
  • Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
  • Profiad blaenorol o weithio gyda data amgylcheddol (data morol, yn ddelfrydol) gan gynnwys sicrhau ansawdd, dilysu data a galluoedd technegol wrth drin data
  • Profiad o gofnodi biolegol
  • Profiad o Marine Recorder Online (dymunol)
  • Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol
  • Sgiliau rhyngbersonol da, y gallu i gyfathrebu ag eraill.
  • Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm
  • Meddu ar drwydded ddilys a chyfredol i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau) (dymunol).
  • Cymwyseddau TG; profiad o MS Office a chronfeydd data, yn enwedig Microsoft Excel. Profiad GIS (dymunol).
Gofynion y Gymraeg
  • Hanfodol :
    Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion…
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary