×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Uwch Ddadansoddwr Busnes Technegol​/Arbenigwr Darlledu | Senior Technical Business Analyst​/B

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: S4C
Full Time position
Listed on 2026-02-08
Job specializations:
  • Healthcare
    Healthcare Consultant
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 65000 GBP Yearly GBP 65000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Uwch Ddadansoddwr Busnes Technegol / Arbenigwr Darlledu | Senior Technical Business Analyst / B[...]

Uwch Ddadansoddwr Busnes Technegol / Arbenigwr Darlledu

Yn S4C, rydym yn angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.

Mae S4C yn chwilio am Uwch Ddadansoddwr Busnes Technegol i gyflawni prosiectau mawr, effaith uchel sy'n llunio dyfodol darlledu yng Nghymru. Mae hon yn swydd gyffrous i feddwlwr strategol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac sydd â brwdfrydedd dros gyflawni newid sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r diwydiant darlledu.

Mae S4C yn defnyddio meddalwedd rheoli gorsafoedd o'r enw BSM. Mae'r feddalwedd hon wedi'i hysgrifennu yn Delphi ac mae wedi'i haddasu'n helaeth er mwyn ei theilwra ar gyfer gofynion penodol S4C. Yn ogystal â'r feddalwedd graidd, mae dau gynnyrch pellach wedi'u datblygu gan S4C:

Cwmwl:
Fe’i defnyddir i gyflwyno syniadau rhaglenni i S4C a dilyn cyflwyniad llwyddiannus i'r cam cytundeb.

PAC (Programme as Completed):
Defnyddir hwn i gasglu data gan gwmnïau cynhyrchu ar gyfer gwybodaeth sy'n ymwneud â'r rhaglen, er enghraifft, casglu data am y gerddoriaeth a ddefnyddir i’w adrodd i PRS.

Mae S4C wedi penderfynu bod angen mwy o feddalwedd berchnogol i ddarparu'r swyddogaethau hyn er mwyn gwneud y gefnogaeth sydd ar gael yn fwy cadarn a pheidio â bod mor ddibynnol ar system bwrpasol.

Mae hon yn swydd ganolog o fewn tîm prosiect S4C, gyda chyfrifoldeb am sicrhau bod meddalwedd newydd yn cael ei hintegreiddio’n llyfn i'r amgylchedd darlledu presennol a ddarperir gan y BBC yng nghanolfan ddarlledu Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd.

Lleoliad:

Swyddfa S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd (Mae S4C yn gweithredu polisi gwaith hybrid.).

Cyflog: £65,000 y flwyddyn

Cytundeb:12 mis i ddechrau

Oriau gwaith:
35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau:

Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn:

Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Teithio:
Mae'r rôl yn gofyn i chi fod yn bresennol yn Yr Egin, Caerfyrddin yn rheolaidd, yn ogystal â theithio'n achlysurol o fewn Cymru.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 16 Chwefror 2026 at Poblru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ
.

Dyddiad Cyfweliadau:
Wythnos yn cychwyn 23 Chwefror 2026

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

#J-18808-Ljbffr
Position Requirements
10+ Years work experience
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary