×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Hyfforddwr Cryfder Chyflyru Canolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Cardiff Metropolitan University
Full Time position
Listed on 2026-01-22
Job specializations:
  • Healthcare
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 29588 - 34610 GBP Yearly GBP 29588.00 34610.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Canolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid (2526180)

Overview

Er mwyn helpu i gynnal ein statws fel Canolfan byd enwog ar gyfer cryfder a chyflyru ieuenctid, rydym yn chwilio am Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Canolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid i ddylunio a chyflwyno sesiynau cryfder a chyflyru ar ôl ysgol i athletwyr ifanc o amrywiaeth o chwaraeon. Byddwch yn cefnogi datblygiad corfforol, athletaidd a phersonol plant drwy hyfforddiant diogel sy’n seiliedig ar dystiolaeth, profion ffitrwydd cadarn, ac ymgysylltu proffesiynol â rhieni, partneriaid a rhanddeiliaid.

Byddwch Yn Chwarae Rhan Allweddol Yn

  • Cyflwyno sesiynau cryfder a chyflyru deniadol sy’n briodol i oedran a cham datblygiad ar gyfer plant o wahanol gefndiroedd a gyda gwahanol anghenion chwaraeon.
  • Cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd ar asesiadau ffitrwydd er mwyn llywio datblygiad a dilyniant athletwyr.
  • Sicrhau bod pob gweithgaredd yn cydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol mewn perthynas â diogelu, amddiffyn plant, ac iechyd a diogelwch.
  • Darparu safon eithriadol o ofal cwsmeriaid wrth weithio gyda phlant, rhieni a phartneriaid allanol.
  • Mentora a chefnogi myfyrwyr isrgraduateg drwy gyfleoedd dysgu cymhwysol sy’n seiliedig ar waith.
  • Cyfrannu at effaith ehangach y Ganolfan drwy hyfforddiant staff, cyflwyno cyrsiau CPD, a’ch datblygiad proffesiynol parhaus eich hun.
Beth fyddwch chi'n ei gyfrannu

Byddwch yn dod ag arbenigedd cryf mewn cryfder a chyflyru, yn ddelfrydol o fewn cyd-destun datblygiad corfforol ieuenctid, ynghyd â dealltwriaeth gadarn o bedagogeg a datblygiad athletwyr. Byddwch yn hyderus wrth ddylunio a chyflwyno rhaglenni sy’n briodol i oedran a statws aeddfedrwydd, gan addasu sesiynau i ddiwallu anghenion gwahanol athletwyr a thimau. Byddwch yn gyfforddus yn gweithio gyda data monitro a phrofi i lywio dylunio rhaglenni a dilyniant, ac yn gallu adolygu ac addasu cynlluniau ar y cyd â’r tîm hyfforddi.

Byddwch hefyd yn dangos ymrwymiad cryf i ddiogelu, proffesiynoldeb, ac arfer o ansawdd uchel wrth weithio gyda phlant.

Yn ogystal, byddwch chi'n:

  • Gradd anrhydedd dda a chymhwyster cryfder a chyflyru cydnabyddedig (e.e. UKSCA, NSCA, BWL, neu gyfwerth), neu radd israddedig sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol.
  • Y gallu i gasglu, dehongli a chymhwyso data perfformiad corfforol a llwyth Hyfforddi.
Pam ymuno â Prifysgol Metropolitan Caerdydd?

Rydym yn Brifysgol sy n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw r llinyn aur sy n sail i n gwerthoedd a n hymddygiad. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu cynhwysiant sy n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu a u bod yn gallu perfformio ar eu gorau.

Drwy ymuno â n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhwydd, gan eich cefnogi gyda datblygiad eich gyrfa.

Rydym Yn Cynnig Buddion Rhagorol Fel

  • Aelodaeth o r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau misol hael.
  • Polisïau rhagorol sy’n ystyriol o deuluoedd - edrychwch ar ein tudalen Hyb Polisi.
  • Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad i gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
  • Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
  • Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
Cysylltu â ni

I gael mwy o fanylion am y rôl, cysylltwch ag Dr John Radnor ar , neu mae croeso i chi e-bostio Aleksandra Janusiewicz AJ, y Cynghorydd Recriwtio ar gyfer y swydd wag hon. Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein. Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio. Dyddiad Cau: 21 Jan 2026

Ysgol/Uned:
Proffesiynol a Chymorth

Cyflog: £29,588 to £34,610 (£15.34 yr awr ynghyd â 14% o dâl gwyliau)

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary