Athro Arbenigol; Tîm Anghenion Lleferydd, Iaith Chyfathrebu
Listed on 2026-01-30
-
Doctor/Physician
Healthcare Consultant, Surgeon
Mae Tîm Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Caerdydd am benodi athro profiadol, deinamig a brwdfrydig i'r gwasanaeth cymorth sefydledig hwn.
Gan weithio fel rhan o Wasanaeth Cynhwysiant Addysg Caerdydd, mae'r Tîm Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn cefnogi dysgwyr y nodwyd bod ganddynt anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu. Mae'r tîm yn cynnig ystod eang o gyngor, cymorth a hyfforddiant i ddysgwyr, rhieni/gofalwyr, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill, ac yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr o bob rhan o'n hysgolion, y Gwasanaeth Cynhwysiant ac Iechyd.
Rydym yn gweithio mewn ystod eang o leoliadau gyda dysgwyr o r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 14 i gefnogi cynhwysiant a sicrhau bod ein dysgwyr yn cyflawni eu potensial llawn.
Rydym yn dymuno penodi i swydd Athro Arbenigol 0.6 i gyflenwi dros absenoldeb mamolaeth tan 28 Chwefror 2027. Byddai r swydd hon yn addas ar gyfer secondiad a/neu gyfle DPP.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o Athrawon Arbenigol Iaith a Lleferydd a Chynorthwywyr Addysgu profiadol a brwdfrydig. Mae r rôl yn cynnwys ystod eang o brofiadau gwahanol - gweithio ar draws yr ystod oedran ac ar dros bob lleoliad; gweithio gyda dysgwyr sydd ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, eu hysgolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill. Drwy r rôl byddwch yn cyfrannu at godi ymwybyddiaeth, cynyddu arbenigedd a gwybodaeth ar draws ein hysgolion, a modelu a chefnogi arfer cynhwysol rhagorol ym maes lleferydd ac iaith.
Er bod rhywfaint o addysgu uniongyrchol, mae rhan fawr o r rôl yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau i greu newid.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn PRG/GGU+1 neu 2 bwynt ADY (pro rata) yn dibynnu ar eu cymhwyster/cymwysterau ADY penodol.
Beth Rydym Ei Eisiau GennychRydym yn chwilio am athro sydd â dealltwriaeth gadarn o ystod anghenion dysgwyr ag anawsterau lleferydd ac iaith a phrofiad helaeth o gefnogi dysgwyr ag Anghenion Lleferydd Iaith a Chyfathrebu. Yn ogystal, bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau rhyngbersonol a sgiliau trefnu rhagorol.
Byddai angen i r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg, yn empathetig, gyda dealltwriaeth gref o sut beth yw addysgu a dysgu o ansawdd da. Byddai angen iddo allu addasu ei addysgu a i arddull ryngweithiol i weddu i ystod o oedrannau, lleoliadau a sefyllfaoedd, a gallu meithrin cydberthnasau proffesiynol cadarn sy n helpu i ysgogi newid mewn modd adeiladol.
Byddai dealltwriaeth gref o TGCh gyda phwyslais ar dechnoleg mynediad, ei chryfderau a i chyfyngiadau, yn fantais, yn ogystal â dealltwriaeth dda o r ffordd y mae strategaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gweithio o fewn y strwythur addysgol ehangach.
Mae r byd addysg yn newid yn gyflym, a byddai angen i r ymgeisydd llwyddiannus allu cymryd agwedd gadarnhaol at weithio mewn amgylchedd sy n newid.
Rydym yn chwilio am berson:
- Dealltwriaeth gadarn o ystod anghenion dysgwyr ag Anghenion Lleferydd Iaith a Chyfathrebu a u goblygiadau ar gyfer cyfathrebu, addysgu a dysgu
- Tystiolaeth o DPP parhaus ym maes Anghenion Lleferydd Iaith a Chyfathrebu
- Gwybodaeth drylwyr am strategaethau sy’n effeithio ar ddisgyblion sydd ag Anghenion Lleferydd Iaith a Chyfathrebu
- Cymwysterau ychwanegol ym maes ADY/Anghenion Lleferydd Iaith a Chyfathrebu, neu ymrwymiad clir i gael y cymhwyster hwn
- Profiad addysgu profedig sylweddol o weithio gyda dysgwyr ag Anghenion Lleferydd Iaith a Chyfathrebu a phrosiectau gwella blaenllaw mewn ysgolion yn y maes hwn.
- Sicrhau gwybodaeth a thystiolaeth o ddeall mentrau a datblygiadau lleol a chenedlaethol mewn perthynas ag anghenion ADY / iechyd a lles emosiynol gan gynnwys sgiliau rheoli amser a threfnu rhagorol
- Profiad o weithio amlasiantaethol gan gynnwys gyda rhieni / gofalwyr
- Profiad o weithredu dulliau cynllunio sy n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol gydag ystod o randdeiliaid
- Y gallu i reoli newid, datrys problemau, defnyddio lefelau uchel o fenter a rheoli eich llwyth gwaith eich hun yn effeithiol
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â manager.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar eingwefan :
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
-
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: