Customer Relations Assistant
Listed on 2026-01-27
-
Doctor/Physician
Surgeon
Overview
Mae'r swydd hon yn y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid, sy'n sicrhau bod ein cynulleidfa’n cael y profiad gorau posibl o'r Senedd. Mae'r tîm yn darparu gwasanaeth gwybodaeth dwyieithog a diduedd i'r cyhoedd.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gwybodaeth proffesiynol ac effeithlon, ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac yn darparu cymorth i'r rhai sy'n ymweld i gymryd rhan ym musnes y Senedd neu ei wylio.
Gan adrodd i Reolwr y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gohebu â'r cyhoedd ac Aelodau o'r Senedd, ynghylch ceisiadau am wybodaeth am ymweliadau a chanfod y ffordd, agenda busnes y Senedd, digwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu amrywiol a drefnir gan y Senedd.
Mae'r rôl hon yn gofyn am allu i roi sylw i fanylion, a sgiliau cryf o ran cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'r gallu i gyfathrebu'n hyderus â phobl ar bob lefel yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae hyfforddiant a chymorth ardderchog ar gael i'ch helpu yn eich rôl.
Responsibilities- Darparu gwasanaeth derbynfa croesawgar i ymwelwyr â'r ystâd, cysylltu â staff perthnasol y Senedd a’i Haelodau, a chefnogi mynediad i'r ystâd; gan gynnwys drwy roi pasys ymwelwyr.
- Cydweithio ag eraill yn y tîm i greu gwybodaeth a chynnwys perthnasol ar gyfer ymwelwyr, megis arddangosfeydd sy'n hysbysu'r hyn sy'n cael ei drafod.
- Cysylltu â staff Diogelwch, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a staff y Senedd, er mwyn sicrhau mynediad di-dor i grwpiau ysgol, pwysigion ac urddasolion sy’n ymweld.
- Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fusnes y Senedd, materion cyfoes a materion gwleidyddol drwy gyfryngau cymdeithasol, digidol ac ysgrifenedig.
- Hyrwyddo a threfnu ymweliadau ar ystâd y Senedd ac oddi arni. Neilltuo seddi i'r cyhoedd yn y Cyfarfod Llawn ac mewn cyfarfodydd pwyllgor, gan sicrhau bod yr holl ofynion mynediad yn cael eu hateb.
- Gweithio'n agos gyda'r tîm Ymgysylltu ag Ymwelwyr i sicrhau bod profiad yr ymwelydd yn un perthnasol, dibynadwy ac mor ymgysylltiol â phosibl.
- Ateb ymholiadau ac ymdrin â gofynion sy'n gwrthdaro a sensitifrwydd gwleidyddol wrth ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gwsmeriaid. Bydd y gwaith yn gyfuniad o ateb e-byst ac ateb ymholiadau wrth y dderbynfa wyneb yn wyneb. Bydd y rôl yn cynnwys yr angen i reoli eich amser a gweithio gyda'ch rheolwr llinell i benderfynu pa ymholiadau i'w blaenoriaethu.
Mae'r sgiliau ieithyddol ar gyfer y swydd hon wedi'u hasesu fel a ganlyn:
- Gwrando: Deall trafodaethau a chyfarwyddiadau hyd yn oed ar bynciau anghyfarwydd. (Lefel
4) - Siarad: Gallu cymryd rhan mewn trafodiadau a siarad yn faith, gan wneud hynny’n hyderus ac yn ddigymell. (Lefel
4) - Darllen: Deall gohebiaeth, erthyglau papur newydd ac adroddiadau wedi’u hanelu at siaradwyr Cymraeg rhugl. (Lefel
4) - Ysgrifennu: Gallu ysgrifennu mathau gwahanol o destunau mewn arddulliau sy n briodol i r darllenydd mewn golwg. (Lefel
4)
Caiff y sgiliau hyn eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol.
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: