×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Tiwtor Cyswllt mewn Throseddeg

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Cardiff Metropolitan University
Full Time position
Listed on 2026-01-22
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    Surgeon, Healthcare Consultant
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 46049 - 51753 GBP Yearly GBP 46049.00 51753.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Tiwtor Cyswllt mewn Throseddeg (2526171)

Y cyfle

Rydym yn recriwtio ar gyfer Tiwtoriaid Cyswllt eithriadol, â chymwysterau addas, sydd ar gael i addysgu ym maes Throseddeg yn achlysurol neu'n sesiynol. Mae'n hanfodol bod gennych ddealltwriaeth sylweddol o natur academaidd a/neu broffesiynol eich pwnc ac y gallwch gyfleu hyn yn eglur, â manyldeb academaidd a brwdfrydedd.

Os oes gennych gofnod o gyflawniad sy’n dangos yr ymrwymiad, y doniau a'r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang drwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd rhagorol, ynghyd ag angerdd cyffredin am ein gwerthoedd a’n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a’n partneriaethau, ac i’w cefnogi.

Prif

Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
  • Cael dogfennau perthnasol y cwrs, a bod yn gyfarwydd â nhw, sy’n rhoi gwybodaeth yn ymwneud â nodau a gweithrediad y cwrs, gan gynnwys y maes llafur, dulliau asesu, y dulliau addysgu a ffefrir, gwybodaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr, dyddiadau ac amseroedd y cwrs, ac ati.
  • Cysylltu ag aelodau o dîm y rhaglen, fel y bo'n briodol, er mwyn deall gofynion, cydlynu cynlluniau a chamau gweinyddol ac i drafod newidiadau.
  • Paratoi deunydd cwrs effeithiol a fydd yn cyflawni nodau’r cwrs, gan gynnwys gwella’r profiad dysgu trwy ddull sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr.
  • Mynychu a chyflwyno sesiynau fel y cytunwyd arnynt, darlithio, arwain trafodaethau ac, fel arall, darparu arweiniad a chyngor, a hyrwyddo dysgu, yn ôl yr angen.
  • Paratoi a marcio unrhyw waith ysgrifenedig, gwaith stiwdio, gwaith dosbarth a phapurau arholiad cysylltiedig yn ôl yr angen, yn unol â’r gweithdrefnau asesu priodol.
  • Rhoi adborth adeiladol ac amserol i fyfyrwyr ar eu cynnydd.
  • Cadw’r cofnodion o asesiadau a phresenoldeb hynny sydd eu hangen ar y Brifysgol.
  • Cadw at amseroedd agor a chau dosbarthiadau yn llym.
  • Sicrhau bod Cyfarwyddwr/Arweinydd y Rhaglen a’r dosbarth yn cael gwybod am eich absenoldeb, lle nad oes modd osgoi hyn, mor bell o flaen llaw â phosibl.
  • Darparu cynllun cwrs/gwaith, set o amcanion a rhestrau darllen i fyfyrwyr lle bo hynny’n briodol.
Beth rydym yn chwilio amdano
  • Gradd anrhydedd dda a/neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol.
  • Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch.
  • Lefel dda o wybodaeth sy’n berthnasol i’r pwnc a’r maes proffesiynol.
  • Tystiolaeth o ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
  • Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
  • Dealltwriaeth eang o faes y pwnc.
  • Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
  • Y gallu i defnyddio dulliau asesu priodol.
  • Y gallu i gyflawni dyletswyddau gweinyddol mewn modd cywir ac amserol.
  • Y gallu i gynllunio llwythi gwaith.
  • Y gallu i nodi meysydd i’w gwella a defnyddio menter a sgiliau datrys problemau i wella perfformiad.
  • Y gallu i gyfleu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd – cyflwyniadau, adroddiadau, deunyddiau dysgu.
  • Y gallu i ddatblygu perthnasoedd gweithio cynhyrchiol fel rhan o dîm proffesiynol.
  • Y gallu i ddangos ymrwymiad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, Iechyd a Diogelwch a Safonau Ansawdd.

Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.

Er mwyn llwyddo, byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach drwy eich arbenigedd a’ch gwybodaeth bwnc fel yr amlygir gan eich cymwysterau a’ch profiad.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Dr Nick Louis, Uwch Darlithydd Mewn Plismona Proffesiynol a Troseddeg,  Neu mae croeso i chi e-bostio Aleksandra Janusiewicz, y Cynghorydd Recriwtio sy’n cefnogi’r swydd wag hon ar aj

Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.

Bydd manyleb y person yn cael ei defnyddio i lunio’r rhestr fer; felly cofiwch ddefnyddio’r wybodaeth hon wrth ysgrifennu’ch cais. Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio.

Dyddiad Cau: 28 Jan 2026

Ysgol/Uned:
Academaidd

Cyflog: £46,049 to £51,753 £ 47.74 yr awr ynghyd â 18% o dâl gwyliau

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary