Cynorthwyydd Partneriaeth SMART; Dylunio Chynhyrchu Cynaliadwy
Listed on 2026-01-22
-
Doctor/Physician
Healthcare Consultant, Surgeon
Er mwyn helpu i gyflawni nodau ein prosiect Partneriaeth SMART a ariennir gan Lywodraeth Cymru, rydym yn chwilio am Gydymaith Ymchwil i gefnogi cydweithrediad cyffrous rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers Ltd. Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol wrth yrru datblygiad marchnad i Wastesavers drwy uwchgylchu, rhannu sgiliau a rhwydweithio o fewn yr economi gylchol. Bydd eich gwaith, yn cyfuno sgiliau dylunio ymarferol, ymgysylltu cymunedol/ hwyluso a dogfennu/adrodd, ochr yn ochr â meithrin presenoldeb cyfryngau digidol effeithiol ar gyfer y prosiect.
Bydd y rôl wedi'i lleoli ar Wastesavers (yn bennaf yng Nghasnewydd a hefyd ledled De Cymru), a champws Llandaf Met Caerdydd.
- Gefnogi'r prosiect busnes ac ymchwir drwy ddylunio addurniadol, cynhyrchu, ailgylchu ac atgyweirio, ar gyfer yr economi gylchol mewn ymgynghoriad â'r Prif Ymchwilydd.
- Cynhal gweithgareddau ymchwil unigol a chydweithredol gan gynnwys gweithdai gyda staff a gwirfoddolwyr Wastesavers, cyfarfodydd rhwydwaith, a gwaith dylunio ymarferol.
- Datblygu a chymhwyso technegau ymchwir dylunio dan oruchwyliaeth a hunan-gyfarwyddyd, gan ddefnyddio offer traddodiadol a digidol.
- Defnyddio menter a chreadigrwydd i ddatrys problemau a chyflawni canlyniadau ymarferol a busnes sy'n cefnogi model busnes cynaliadwy.
- Cyflwyno cynnydd a chanlyniadau ymchwil i randdeiliaid prosiect a chyfrannu at adroddiadau, cyhoeddiadau a gweithgareddau lledaenu.
Gyda sgiliau trefnu gwych ac angerdd dros ddylunio cynaliadwy, byddwch yn dod â chreadigrwydd a meddwl dadansoddol i brosiect sy'n cyfuno ymchwil, arloesi ac effaith y byd go iawn. Bydd eich gallu i gymhwyso technegau dylunio traddodiadol a digidol yn eich galluogi i ddatblygu atebion ymarferol, tra bydd eich sgiliau ymchwil cryf yn helpu i lunio model manwerthu cynaliadwy ar gyfer yr economi gylchol.
YnOgystal, Byddwch Yn
- Cymhwyso eich gwybodaeth am ddulliau ymchwil a gwneuthuriad cynaliadwy i sicrhau canlyniadau effeithiol.
- Defnyddio sgiliau menter a datrys problemau i nodi cyfleoedd ar gyfer arloesedd yn y farchnad.
- Cyfathrebu syniadau cymhleth yn glir trwy adroddiadau, cyflwyniadau a gweithdai.
- Dangos hyfedredd mewn offer TG, gan gynnwys Microsoft Office, Adobe CC, meddalwedd CAD/CAM, a llwyfannau cyfryngau digidol.
- Dangos tystiolaeth o brosiectau masnachol a/neu ymchwil a arweinir gan ddyluniad.
- Byddwch yn barod i deithio rhwng campysau a safleoedd cwmnïau er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect.
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac rydym yno ar gyfer ein pobl. Ein hysbryd cymunedol yw'r edau euraidd sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiadau. Rydym yn cefnogi ac yn cofleidio cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch yn cael eich hun mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhwydd, gan eich cefnogi gyda'ch datblygiad gyrfa.
RydymYn Cynnig Buddion Rhagorol Fel
- 20 diwrnod ynghyd â gwyliau banc, sy'n gymwys am ddiwrnod ychwanegol y flwyddyn ar gyfer pob blwyddyn a wasanaethir (hyd at uchafswm o 5 diwrnod). Mae dau ddiwrnod gwirfoddolwyr corfforaethol ar gael hefyd, ynghyd ag un diwrnod o wyliau ar gyfer pen-blwydd y gweithiwr.
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau misol hael.
- Polisïau ardderchog sy'n addas i deuluoedd — edrychwch ar ein tudalen Hyb Polisi.
- Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad at gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
- Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
- Mynediad am ddim i deuluoedd i'n darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
Am fwy o wybodaeth am y rôl cysylltwch â Jon Pigott ar , neu mae croeso i chi gysylltu ag Aleksandra Janusiewicz, yr Ymgynghorydd Recriwtio sy'n cefnogi'r swydd wag hon ar AJ
Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein. Bydd y fanyleb unigolyn yn cael ei defnyddio fel offeryn ar gyfer rhestr fer; felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu'ch cais. Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â sut i wneud cais trwy ymweld â'n tudalen Canllawiau Cais.
Dyddiad Cau: 13 Feb 2026
Ysgol/Uned:
Proffesiynol a Chymorth
Cyflog: £29,588 to £34,610 y flwyddyn
Tymor sefydlog am 12 mis
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: