×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Swyddog Gweithredol Cyfri

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Cavendish
Full Time position
Listed on 2026-03-10
Job specializations:
  • Dental / Dentistry
    Healthcare Consultant
Job Description & How to Apply Below

Swyddog Gweithredol Cyfri| Cysylltiadau Llywodraeth

Caerdydd

Parhaol

Llawn amser 37.5 awr yr wythnos

Pwy ydym ni

Mae Cavendish yn llawn o fobl dalentog, yn cyflawni canlyniadau rhagorol i’n cleientiaid. Rydym yn ymgynghoriaeth cyfathrebu aml-wobrwyedig, wedi’i rhestru yn y 150 uchaf PR Week ac yn rhif 1 yn rhestr ymgynghoriaethau Materion Cyhoeddus y DU gan PR Week. Enillwyd y teitl Ymgynghoriaeth Fawr y Flwyddyn yng Ngwobrau Cenedlaethol PRCA 2025.

Gyda 11 swyddfa ar draws y DU ac Iwerddon, mae Cavendish yn cyfuno cyfathrebu arbenigol i ddarparu atebion integredig i gleientiaid a chyfleoedd datblygu diderfyn i’n pobl.

Credwn mewn denu talent o gefndiroedd amrywiol, meithrin diwylliant cwmni sy’n arwain at gydbwysedd gwaith/bywyd cryf, a’i gryfhau drwy ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu gwych.

Beth gewch chi gennym ni

Cyfle i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf, gan weithio gyda phobl dalentog mewn sefydliad deinamig sy’n ehangu’n gyflym. Yn ogystal â chyflog cystadleuol, rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu helaeth a phecyn blaenllaw o fuddion, gan gynnwys:

  • Mynediad at fentoriaeth gan rai o’r meddyliau gorau yn y diwydiant
  • Dyraniad amser i ffwrdd â thâl sy’n arwain y diwydiant
  • Yswiriant Meddygol Preifat
  • Digwyddiadau cymdeithasol ac adeiladu tîm rheolaidd
  • Amser i ffwrdd â thâl i wirfoddoli dros elusen
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
  • Sgiliau yn y Gymraeg - yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Awch i ddysgu, agwedd frwdfrydig a meddwl agored
  • Dymuniad i weithio’n gyflym, dysgu’n naturiol gan arbenigwyr y diwydiant, a chyflwyno gwaith o ansawdd uchel yn gyson
  • Diddordeb mewn gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
  • Gweithiwr tîm
  • Meddylfryd creadigol
Yr hyn fydd angen i chi ei wneud

Bod yn aelod allweddol o’r tîm, gan gefnogi Rheolwyr Cyfrifon a Chyfarwyddwyr i gyflawni gwasanaethau eithriadol a sicrhau bod amcanion y cleient a’r Grŵp yn cael eu cyrraedd. Byddwch yn datblygu arbenigedd masnachol a sgiliau rheoli prosiectau ehangach a fydd yn cefnogi datblygu gyrfa

  • Cefnogi’r tîm ehangach gyda chynllunio a gweithredu ymgyrchoedd cysylltiadau llywodraeth, materion cyhoeddus a rhaglenni ymgysylltu
  • Mynychu cyfarfodydd cleientiaid, gan ddirprwyo dros Reolwyr Cyfrifon pan fo angen
  • Ysgrifennu nodiadau monitro, papurau briffo a chynhyrchu ymchwil, gan gyflwyno cynnwys cywir o ansawdd da gyda sylw i fanylion
  • Cynhal ymchwil polisi, gwleidyddol a rhanddeiliaid a darparu mewnwelediad i lunio cyngor ac ymgyrchoedd yn y meysydd cysylltiadau llywodraethol.
  • Drafftio cyfathrebiadau cryno a chywir gan gynnwys adroddiadau monitro, nodiadau briffio, cynlluniau ymgysylltu a gohebiaeth i randdeiliaid amrywiol
  • Adnabod a chefnogi cyfleoedd busnes newydd
  • Adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau gwleidyddol a materion cyhoeddus
  • Cyfrannu at ymdrechion marchnata’r tîm a’r busnes ehangach
Cyfle Cyfartal

Ein gweledigaeth yw bod yn gweithle amrywiol a chynhwysol go iawn sy’n ein galluogi i ddenu a chadw gweithlu amrywiol, sy’n adlewyrchu ein cleientiaid a’n cymuned. Am y rheswm hwn, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr waeth beth fo’u cymwysterau a’u profiad yn y diwydiant, ac o bob person, waeth beth fo’u hil, rhyw, anabledd, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol neu oedran.

Mae pawb yn elwa pan fyddwn yn hyrwyddo ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth meddyliau, syniadau a dulliau gweithio y mae pobl o gefndiroedd, profiadau a hunaniaethau gwahanol yn eu dod i sefydliad.

Rydym yn gyflogwr hyderus o ran anabledd. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch yn ystod y broses ymgeisio a chyfweld, anfonwch e-bost at peopl

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary