×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Pennaeth Partneriaethau Strategol

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Acorn by Synergie
Full Time position
Listed on 2026-01-15
Job specializations:
  • Business
    Business Development
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 50000 - 58000 GBP Yearly GBP 50000.00 58000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Rydym yn recriwtio Pennaeth Partneriaethau Strategol ar gyfer Partneriaeth Actif Canolbarth y De.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan hollbwysig yng gweithrediadau PACD. Byddwch yn ymuno â thîm bach ond uchelgeisiol, ac yn gweithio mewn cysylltiad agos â'r Rheolwr Gyfarwyddwr.

Manylion Allweddol

Lleoliad:
Gweithio o Bell (Rhanbarth Canolbarth y De) gyda teithio.

Cyflog: £50,000 - £58,000 y blwyddyn dibynnu ar brofiad

Oriau Gwaith:
Amser llawn, 35 awr yr wythnos.

Pwrpas

Bydd y Pennaeth Partneriaethau Strategol yn hybu cydweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, a rhyngddynt, er mwyn ymwreiddio dull seiliedig ar systemau o gynyddu chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn cymunedau. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar adnabod, cysylltu, dylanwadu a chefnogi partneriaid i greu newid sylweddol yn iechyd a llesiant ein cymunedau lleol drwy gydweithio ar draws y rhanbarth, er mwyn i ni allu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a gwella lefelau gweithgarwch gyda'n gilydd.

Manyleb y Person

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad, gwybodaeth a sgiliau yn y meysydd a ganlyn:

Hanfodol

Profiad o adeiladu perthnasoedd cryf, dylanwadu ar randdeiliaid a meithrin cydweithio.
Profiad o ddefnyddio ymchwil a mewnwelediad i ddatblygu cyfeiriad strategol a dylanwadu ar newid.
Profiad o weithio gyda fframweithiau mesur effaith.
Profiad o arwain prosiectau cymhleth.
Sgiliau trefnu, arwain a chyfathrebu ynghyd â'r gallu i ysbrydoli a dylanwadu ar bobl eraill.
Y gallu i flaenoriaethu tasgau, addasu a rheoli amser yn effeithiol er mwyn cwblhau gwaith cyn nifer o derfynau amser.
Yn gyfarwydd ac yn gwbl ymrwymedig i egwyddorion ac arferion tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.
Dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n hybu gweithgarwch corfforol a'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan.
Hyddysg mewn systemau TG.Dymunol

Dealltwriaeth o'r dirwedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru a'r fframwaith polisi cysylltiedig.
Profiad o waith arweinyddiaeth a phartneriaeth sy'n gysylltiedig â systemau mewn amgylchedd amlsector.
Y gallu i siarad / cyfathrebu yn y Gymraeg a deall logisteg gweithio'n ddwyieithog.
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Dewch o hyd i'r pecyn ymgeisydd llawn ar ein wefan.

Suit i ymgeisio

Cofiwch, fel rhan o'ch cais, bydd gofyn i chi ddarparu'r canlynol:

CV wedi'i ddiweddaru
Datganiad ategol (dim mwy nag un dudalen) yn amlinellu pam rydych yn dymuno ymuno â'r bartneriaeth a pham rydych yn ymgeisydd credadwy, gan gyfeirio at fanyleb y person.
Dyddiad Cau:
Hanner nos 11 Chwefror 2026.

Dyddiad Cyfweld:
Wythnos yn dechrau 23 Chwefror 2026 a wythnos yn dechrau 2 Mawrth 2026.

Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary