Technegydd Labordy
Listed on 2026-01-17
-
Healthcare
Hysbyseb
Technegydd Labordy
Ionawr 2026
Swydd:
Technegydd Labordy
Pwynt/Graddfa Cyflog:
Gradd 5 Pwynt 8-12 - £26,824-£28,598 (Pro rata –39 wythnos)
Cytundeb:
Parhaol
Oriau:
Llawn Amser
Hysbyseb: 6ed o Ionawr 2026
Dyddiad Cau: 19eg o Ionawr 2026 (9:00yb)
Swydd i ddechrau:
Cyn gynted â phosib
Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn unigolyn brwdfrydig, sydd yn mwynhau gweithio gyda phlant. Edrychwn am unigolyn sydd yn dangos empathi a charedigrwydd tuag at bob disgybl.
Arwyddair yr ysgol yw ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’. Ein bwriad yw i adeiladu yn bellach ar lwyddiannau yr ysgol hyd yma ac i sicrhau fod pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn derbyn y cyfleoedd gorau i gyrraedd pen eu mynydd personol.
Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach ynglŷn â’r cyfle euraidd yma, cysylltwch â Emily Denham yn y man cyntaf drwy ffonio'r ysgol neu ebostio trwy'r manylion ymgeisio
Datganiad DiogeluMae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Safeguarding StatementYsgol Gymraeg Bro Morgannwg is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment. We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: