×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr - Gwaith Ieuenctid

Job in Bangor, Bangor (Wales), Gwynedd, Wales, UK
Listing for: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Full Time position
Listed on 2026-01-24
Job specializations:
  • Healthcare
Job Description & How to Apply Below
Location: Bangor

Overview

Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr – Ledled Cymru ac Ar-Lein – Raddfa tâl: £15.93 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau) a phecyn buddion hael. Mae gennym gyfle gwych ar gyfer Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr i gefnogi ein dysgwyr sy'n oedolion ar ein cyrsiau Gwaith Ieuenctid mewn lleoliadau ledled Cymru ac ar-lein. Byddwch yn cefnogi ac yn cynorthwyo dysgwyr yn unol â'u hanghenion, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol, a meini prawf asesu pwnc.

Byddwch yn sefydlu perthynas gwaith adeiladol ac effeithiol gyda'r dysgwyr, gan weithio mewn partneriaeth â ac o dan gyfarwyddyd tiwtoriaid y dosbarth. Byddwch yn gweithredu gweithgareddau dysgu wedi'u cynllunio a/neu raglenni addysgu fel y cytunwyd gyda'r tiwtoriaid.

Responsibilities
  • Cefnogi a chynorthwyo dysgwyr yn unol ag anghenion y dysgwyr ac polisïau a gweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru.
  • Sefydlu perthnasoedd gwaith adeiladol ac effeithiol gyda dysgwyr a rhyngweithio â nhw yn unol â'u hanghenion unigol, a helpu i feithrin eu hyder a gwella hunan-barch.
  • Cefnogi dysgwyr mewn gweithgareddau ymarferol amrywiol yn unol â meini prawf asesu pwnc y cwrs.
Qualifications

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

How to apply

Ymgeisiwch erbyn 12yp Dydd Mawrth 3ydd Chwefror gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch nad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Interviews and equality

Cyfweliadau i'w cynnal wythnos cychwyn 9fed Chwefror. Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal. Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary